Pedro Antonio de Alarcón

Nofelydd, bardd, dramodydd, a newyddiadurwr Sbaenaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Pedro Antonio de Alarcón y Ariza (10 Mawrth 183310 Gorffennaf 1891) sy'n nodedig am ei nofel ''El sombrero de tres picos'' (1874).

Ganed yn Guadix, Granada, a chychwynnodd ei yrfa lenyddol yn newyddiadurwr ac yn fardd. Cafodd fethiant gyda'i ddrama ''El hijo pródigo'' (1857), ac aeth yn filwr yn ymgyrch Moroco yn 1859–60. Ysgrifennodd ''Diario de un testigo de la guerra de Africa'' (1859) am ei brofiadau.

Dychwelodd i Sbaen a daeth yn olygydd y cyfnodolyn gwrthglerigol ''El Látigo''. Ystyrir ei waith amlycaf, y nofel fer ''El sombrero de tres picos'', yn glasur o ffuglen ''costumbrismo''. Ymhlith ei nofelau eraill mae ''El final de Norma'' (1855), ''El escándalo'' (1875), ac ''El niño de la bola'' (1880). Bu farw yn Valdemoro, ger Madrid, yn 58 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Alarcón, Pedro Antonio de', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Alarcón, Pedro Antonio de
    Cyhoeddwyd 1989
    Llyfr