Isabel Allende

Awdures o Tsile yw Isabel Allende Llona (ganwyd 2 Awst 1942 yn Lima, Periw). Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar brofiadau menywod ac mae hi'n cymysgu realaeth a dychymyg i greu realaeth hudol (''Magical Realism''). Ymhlith ei gwaith mwyaf nodedig mae ''The House of the Spirits'' (''La casa de los espíritus'', 1982) a ''City of the Beasts'' (''La ciudad de las bestias'', 2002), a oedd hefyd yn llwyddiant o ran gwerthiant y llyfrau. Credir mai Allende yw'r "awdur sydd wedi gwerthu mwyaf o lyfrau Sbaeneg o'i chenehedlaeth".

Ganwyd Isabel Allende yn Lima, Periw, am fod ei thad, Tomás Allende; yn llysgennad Tsile i Periw. Cefnder ei thad oedd Salvador Allende, Arlywydd Tsile o 1970 i 1973. Yn 1945, symudodd y teulu yn ôl i Santiago, Tsile, tan 1953 pan ailbriododd ei mam hi i Ramón Huidobro (diplomydd arall) a symudon nhw i Bolifia, a Beirut cyn dychwelyd i Tsile yn 1958.

Priododd Miguel Frías yn 1962, a tan 1965 bu Allende yn gweithio i'r Cenhedloedd Unedig. Cawson nhw ferch yn 1963 a mab yn 1966. Cyflawnodd waith mam, diplomydd. Erbyn 1988, priododd Allende ag Americanwr, Willie Gordon. Daeth yn ddinesydd yr UDA yn 2003. Erbyn heddiw mae hi'n byw yn San Rafael, California. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3 ar gyfer chwilio 'Allende, Isabel', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Allende, Isabel
    Cyhoeddwyd 1993
    Llyfr
  2. 2
    gan Allende, Isabel
    Cyhoeddwyd 2000
    Llyfr
  3. 3
    gan Allende, Isabel
    Cyhoeddwyd 1997
    Llyfr