Jane Austen

Nofelydd o Saesnes oedd Jane Austen (16 Rhagfyr 177518 Gorffennaf 1817). Mae hi'n adnabyddus am ei gweithiau fel ''Pride and Prejudice'' a ''Sense and Sensibility''. Ysgrifennai mewn arddull realaidd a chaiff ei hystyried yn sylwebydd cymdeithasol sylwgar a feddai ar iaith anuniongyrchol a oedd yn llawn eironi. Oherwydd hyn, hyhi yw un o ysgrifenwyr mwyaf poblogaidd yn Saesneg.

Cafodd ei eni yn Steventon, Hampshire. Rheithor oedd ei thad, y Parch George Austen. Treuliodd Austen ei bywyd cyfan fel rhan o deulu bach a chlos, a oedd ar ymylon bywyd bonheddig yn Lloegr. Derbyniodd ei haddysg gan ei thad yn bennaf, yn ogystal â'i brodyr hŷn a'i darllen personol ei hun. Roedd cefnogaeth di-derfyn ei theulu yn rhan annatod o ddatblygiad Austen fel ysgrifennwr proffesiynol. Parhaodd prentisiaeth Austen fel ysgrifennwraig o'i harddegau tan ei bod tua 35 oed. Yn ystod y cyfnod hwn, arbrofodd â nifer o arddulliau ysgrifenedig, gan gynnwys y nofel epistolaidd. Ysgrifennodd dair nofel fawr a dechreuodd ei phedwaredd.

O 1811 tan 1816, llwyddodd Austen fel awdures, gyda'r nofelau canlyol yn cael eu rhyddhau: ''Sense and Sensibility'' (1811), ''Pride and Prejudice'' (1813), ''Mansfield Park'' (1814) ac ''Emma'' (1816). Ysgrifennodd ddwy nofel arall hefyd, ''Northanger Abbey'' a ''Persuasion'' a gafodd eu cyhoeddi ym 18181 ar ôl ei marwolaeth. Roedd hi hefyd wedi dechrau nofel arall sef "Sanditon" ond bu farw cyn iddi fedru ei gwblhau.

Bu farw Austen yng Nghaerwynt. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Austen, Jane', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Austen, Jane
    Cyhoeddwyd 1982
    Llyfr
  2. 2
    gan Austen, Jane
    Cyhoeddwyd 1997
    Llyfr