Alejo Carpentier

Nofelydd, dramodydd ac ysgrifwr Sbaeneg a cherddolegydd o Giwba oedd Alejo Carpentier y Valmont (26 Rhagfyr 190424 Ebrill 1980). Mae'n nodedig fel un o arloeswyr realaeth hudol yn llên America Ladin yng nghanol yr 20g.

Ganwyd yn Lausanne, y Swistir, i Ffrancwr a mam Rwsiaidd. Ymfudodd y teulu i La Habana pan oedd Alejo yn faban. Ffrangeg oedd ei iaith gyntaf, a bu'n siarad Sbaeneg gydag acen Ffrengig. Astudiodd mewn ysgolion preifat ac ym Mhrifysgol La Habana. Yn y 1920au, Carpentier oedd un o arweinwyr y mudiad Affro-Giwbaiadd a geisiodd ymgorffori traddodiadau Affricanaidd yn niwylliant yr ''avant-garde'' yng Nghiwba, yn enwedig cerddoriaeth, dawns, a'r theatr. Cyfansoddodd Carpentier sawl libreto opera a bales gyda themâu Affricanaidd-Giwbaiadd. Cyhoeddodd y nofel ''¡Ecue-Yamba-O!'' yn 1933.

Ffoes Carpentier Giwba yn 1928 i ddianc rhag llywodraeth yr unben Gerardo Machado, ac ymsefydlodd ym Mharis. Dychwelodd i La Habana yn 1939, ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Symudodd i Caracas, Feneswela, yn 1945. Cyhoeddodd yr astudiaeth gerddorol ''La música en Cuba'' yn 1946. Mae ei ffuglen yn genre realaeth hudol yn cynnwys y nofelau ''El reino de este mundo'' (1950) a ''Los pasos perdidos'' (1953) a'r gyfrol o straeon byrion ''Guerra del tiempo'' (1958).

Dychwelodd Carpentier i La Habana yn 1959 yn sgil Chwyldro Ciwba. Gwasanaethodd yn ddiplomydd dan lywodraeth Fidel Castro ym Mharis o ganol y 1960au hyd ddiwedd ei oes. Yng nghyfnod diweddarach ei yrfa lenyddol fe drodd at ffuglen ysgafn, megis ''Concierto barroco'' (1974), ''El recurso del método'' (1974), ac ''El arpa y la sombra'' (1979). Bu farw ym Mharis yn 75 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Carpentier, Alejo', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Carpentier, Alejo
    Cyhoeddwyd 1982
    Llyfr
  2. 2
    gan Carpentier, Alejo
    Cyhoeddwyd 1998
    Llyfr