José Saramago

Llenor a newyddiadurwr o Bortiwgal oedd José de Sousa Saramago (16 Tachwedd 192218 Mehefin 2010). Enillodd Wobr Llenyddiaeth Nobel yn 1998.

Ganed ef i deulu tlawd yn Azinhaga, pentref bychan yn nhalaith Ribatejo i'r de-ddwyrain o Lisbon. Symudodd y teulu i Lisbon yn 1924, lle cafodd ei dad waith fel plismon. Bu José yn gweithio fel mecanydd ceir am ddwy flynedd, yna fel cyfieithydd a newyddiadurwr. Daeth yn olygydd cynorthwyol y papur newydd ''Diário de Notícias''.

Dim ond yn ei bum degau y daeth yn adnabyddus yn rhyngwladol, gyda chyhoeddi'r nofel ''Baltasar a Blimunda''. Bu'n aelod o Blaid Gomiwnyddol Portiwgal ers 1969, ac achosodd ei syniadau gryn helynt ym Mhortiwgal ar adegau, yn enwedig ar ôl cyhoeddi ''Yr Efengyl yn ôl Iesu Grist'', oedd yn portreadu Iesu fel dyn ffaeledig. Yn rhannol oherwydd yr helynt yma, symudodd ef a'i wraig i Lanzarote i fyw. Beirniadodd Israel yn hallt am ei gweithredodd ym Mhalesteina a Libanus. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Saramago, José', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Saramago, José
    Cyhoeddwyd 2004
    Llyfr